Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 5:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Fe'i hanfonaf allan,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac fe â i mewn i dŷ'r lleidr ac i dŷ'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei dŷ a'i ddifetha, yn goed a cherrig.”

5. Daeth yr angel oedd yn siarad â mi a dweud wrthyf, “Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg.”

6. Pan ofynnais, “Beth ydyw?” atebodd, “Casgen sy'n dod.” A dywedodd, “Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear.”

7. Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen.

8. Dywedodd yr angel, “Drygioni yw hon,” a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni.

9. Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear.

10. Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “I ble maent yn mynd â'r gasgen?”

11. Dywedodd wrthyf, “I godi tŷ iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 5