Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd gyferbyn â Jerwsalem i'r dwyrain; a holltir Mynydd yr Olewydd yn ddau o'r dwyrain i'r gorllewin gan ddyffryn mawr, a symud hanner y mynydd tua'r gogledd a hanner tua'r de.

5. Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar ôl ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef.

6. Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 14