Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Jerwsalem a'r Cenhedloedd

1. Wele, y mae diwrnod i'r ARGLWYDD yn dod, ac fe rennir yn dy ŵydd yr ysbail a gymerwyd oddi arnat.

2. Casglaf yr holl genhedloedd i frwydr yn erbyn Jerwsalem; cymerir y ddinas, ysbeilir y tai, a threisir y gwragedd, caethgludir hanner y ddinas, ond ni thorrir ymaith weddill y bobl o'r ddinas.

3. Yna â'r ARGLWYDD allan i ymladd yn erbyn y cenhedloedd hynny, fel yr ymladd yn nydd brwydr.

4. Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd gyferbyn â Jerwsalem i'r dwyrain; a holltir Mynydd yr Olewydd yn ddau o'r dwyrain i'r gorllewin gan ddyffryn mawr, a symud hanner y mynydd tua'r gogledd a hanner tua'r de.

5. Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar ôl ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef.

6. Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.

7. A bydd yn un diwrnod—y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD—heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.

8. Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i fôr y dwyrain a'u hanner i fôr y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf.

9. Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un.

10. Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin.

11. Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r holl bobloedd a fu'n rhyfela yn erbyn Jerwsalem â'r pla hwn: bydd eu cnawd yn pydru, a hwythau'n dal ar eu traed, eu llygaid yn pydru yn eu tyllau, a'u tafod yn eu safn.

13. Ar y dydd hwnnw daw dychryn mawr arnynt oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd y naill yn codi yn erbyn y llall, a byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd;

14. a bydd Jwda'n rhyfela yn Jerwsalem. Cesglir cyfoeth yr holl genhedloedd oddi amgylch—aur ac arian a digonedd o ddillad.

15. A syrth pla tebyg ar geffyl a mul, ar gamel ac asyn, ac ar bob anifail yn eu gwersylloedd.

16. Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gŵyl y Pebyll.

17. A ph'un bynnag o deuluoedd y ddaear nad â i fyny i Jerwsalem i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno.

18. Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.

19. Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.

20. Ar y dydd hwnnw, bydd “Sanctaidd i'r ARGLWYDD” wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor;

21. a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.