14. cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tân, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.
15. Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd â'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud â phabell y cyfarfod.
16. “Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri.”
17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
18. “Peidiwch â gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.
19. Dyma a wnewch â hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;
20. ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw.”
21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22. “Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd;
23. yr wyt i gyfrif pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
24. Dyma fydd dyletswydd a gorchwyl teuluoedd y Gersoniaid:
25. cludo llenni'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ei len a'r gorchudd o grwyn morfuchod sydd drosto, y gorchudd sydd dros ddrws pabell y cyfarfod,