Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.

35. Dyma feibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.

36. Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.

37. Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.

38. Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;

39. o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26