Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,

4. am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:

5. Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;

6. o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.

7. Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26