Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:27-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.

28. Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd:

29. Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.

30. Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;

31. o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;

32. o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.

33. Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26