Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.

26. Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.

27. Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.

28. Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd:

29. Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26