Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.

22. Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.

23. Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;

24. o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.

25. Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.

26. Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.

27. Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 26