Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 21:9-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

10. Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,

11. a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul.

12. Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,

13. aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.

14. Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,

15. Arnon a llechweddau'r dyffrynnoeddsy'n ymestyn at safle Arac yn gorffwys ar derfyn Moab.”

16. Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, “Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt.”

17. Yna canodd Israel y gân hon:“Tardda, ffynnon! Canwch iddi—

18. y ffynnon a gloddiodd y tywysogion,ac a agorodd penaethiaid y boblâ'u gwiail a'u ffyn.”Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,

19. ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,

20. ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

21. Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,

22. “Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.”

23. Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.

24. Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.

25. Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.

26. Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 21