Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 10:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.

22. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.

23. Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,

24. a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.

25. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.

26. Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 10