3. A dywedais wrthynt, “Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei dŷ ei hun.”
4. Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.
5. Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo:
6. Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.
7. Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana.
8. Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;
9. teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;
10. teulu Ara, chwe chant pum deg a dau;
11. teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth;
12. teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;
13. teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump;
14. teulu Saccai, saith gant chwe deg;
15. teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth;
16. teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth;
17. teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau;
18. teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith;
19. teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith;
20. teulu Adin, chwe chant pum deg a phump;