Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 3:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ailgodwyd Porth y Pysgod gan feibion Hasena; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.

4. Yn eu hymyl hwy yr oedd Meremoth fab Ureia fab Cos yn atgyweirio, ac yn ei ymyl ef Mesulam, fab Berecheia, fab Mesesabel, ac yn ei ymyl yntau yr oedd Sadoc fab Bana yn atgyweirio.

5. Y Tecoiaid oedd yn atgyweirio yn eu hymyl hwy, ond nid oedd eu pendefigion yn fodlon gwasanaethu meistriaid.

6. Atgyweiriwyd yr Hen Borth gan Joiada fab Pesach a Mesulam fab Besodeia; gosodasant ei drawstiau a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 3