12. Yn ei ymyl ef yr oedd Salum fab Haloches, pennaeth hanner rhanbarth Jerwsalem, yn atgyweirio gyda'i ferched.
13. Atgyweiriwyd Porth y Glyn gan Hanun a thrigolion Sanoach; ailgodasant ef a gosod ei ddorau gyda'r cloeau a'r barrau.
14. Hwy hefyd a atgyweiriodd y mur am fil o gufyddau hyd at Borth y Dom. Ond atgyweiriwyd Porth y Dom gan Malacheia fab Rechab, rheolwr rhanbarth Beth-hacerem; fe'i hailgododd a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.
15. Atgyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd.
16. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Nehemeia fab Asbuc, rheolwr hanner rhanbarth Beth-sur, hyd at le gyferbyn â mynwent Dafydd a hyd at Bwll y Gloddfa ac at Dŷ'r Cedyrn.
17. Ar ei ôl ef atgyweiriodd y Lefiaid: Rehum fab Bani, ac yn ei ymyl Hasabeia, rheolwr hanner rhanbarth Ceila, yn atgyweirio ei ran ei hun.