Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 2:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna dywedais wrtho, “Os gwêl y brenin yn dda, rho i mi lythyrau at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates er mwyn iddynt hwyluso fy nhaith i Jwda,

8. a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tŷ y byddaf yn byw ynddo.” Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin.

9. Yr oedd y brenin wedi anfon gyda mi swyddogion o'r fyddin a marchogion, a phan ddeuthum at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates rhoddais iddynt lythyrau'r brenin.

10. Ond pan glywodd Sanbalat yr Horoniad a'r gwas Tobeia yr Ammoniad am hyn, yr oeddent yn flin iawn fod rhywun wedi dod i geisio cynorthwyo pobl Israel.

11. Wedi imi gyrraedd Jerwsalem a bod yno dridiau,

12. codais liw nos, myfi a'r ychydig ddynion oedd gyda mi, ond heb ddweud wrth neb beth oedd fy Nuw wedi ei roi yn fy meddwl i'w wneud i Jerwsalem. Nid oedd anifail gyda mi ar wahân i'r un yr oeddwn yn marchogaeth arno.

13. Euthum allan liw nos trwy Borth y Glyn i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig ac at Borth y Dom, ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd â thân.

14. Euthum ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Lyn y Brenin, ond nid oedd lle i'm hanifail fynd trwodd.

15. Euthum i fyny'r dyffryn liw nos i archwilio'r mur, ac yna troi'n ôl a dychwelyd trwy Borth y Glyn.

16. Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 2