Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 1:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddïo o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thŷ fy nhad wedi pechu yn dy erbyn,

7. ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio â chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.

8. Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, ‘Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd;

9. ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.’

10. Dy weision a'th bobl di ydynt—rhai a waredaist â'th allu mawr ac â'th law nerthol.

11. O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a phâr iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn.”Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 1