Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—y mae llwyddiant o ofni ei enw:“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas.

10. A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhÅ·'r twyllwr,a'r mesur prin sy'n felltigedig?

11. A oddefaf gloriannau twyllodrus,neu gyfres o bwysau ysgafn?

12. Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,a'i thrigolion yn dweud celwydd,a thafodau ffals yn eu genau.

13. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,i'th anrheithio am dy bechodau:

14. byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog;byddi'n cilio, ond heb ddianc,a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;

Darllenwch bennod gyflawn Micha 6