Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Achos yr ARGLWYDD yn erbyn Israel

1. Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD:“Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd,a bydded i'r bryniau glywed dy lais.

2. Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd,chwi gadarn sylfeini'r ddaear;oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl,ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.

3. O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?Sut y blinais di? Ateb fi.

4. Dygais di i fyny o'r Aifft,gwaredais di o dŷ'r caethiwed,a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.

5. O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab,a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef,a hefyd y daith o Sittim i Gilgal,er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”

6. Â pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD,a phlygu gerbron y Duw uchel?A ddof ger ei fron â phoethoffrymau,neu â lloi blwydd?

7. A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddodneu ar fyrddiwn o afonydd olew?A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd,fy mhlant fy hun am fy mhechod?

8. Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch,ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

Euogrwydd Israel a'i Chosb

9. Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—y mae llwyddiant o ofni ei enw:“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas.

10. A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr,a'r mesur prin sy'n felltigedig?

11. A oddefaf gloriannau twyllodrus,neu gyfres o bwysau ysgafn?

12. Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,a'i thrigolion yn dweud celwydd,a thafodau ffals yn eu genau.

13. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,i'th anrheithio am dy bechodau:

14. byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog;byddi'n cilio, ond heb ddianc,a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;

15. byddi'n hau, ond heb fedi,yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew,a gwinwydd, ond heb yfed gwin.

16. Cedwaist ddeddfau Omri,a holl weithredoedd tŷ Ahab,a dilynaist eu cynghorion,er mwyn imi dy wneud yn ddiffaitha'th drigolion yn gyff gwawd;a dygwch ddirmyg y bobl.”