Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. A oddefaf gloriannau twyllodrus,neu gyfres o bwysau ysgafn?

12. Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,a'i thrigolion yn dweud celwydd,a thafodau ffals yn eu genau.

13. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,i'th anrheithio am dy bechodau:

14. byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog;byddi'n cilio, ond heb ddianc,a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;

15. byddi'n hau, ond heb fedi,yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew,a gwinwydd, ond heb yfed gwin.

16. Cedwaist ddeddfau Omri,a holl weithredoedd tŷ Ahab,a dilynaist eu cynghorion,er mwyn imi dy wneud yn ddiffaitha'th drigolion yn gyff gwawd;a dygwch ddirmyg y bobl.”

Darllenwch bennod gyflawn Micha 6