Hen Destament

Testament Newydd

Micha 2:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau,ac ar doriad dydd yn ei wneud,cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.

2. Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,a thai, ac yn eu meddiannu;y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,dyn a'i etifeddiaeth.

3. Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwgna all eich gwarrau ei osgoi;ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,oherwydd bydd yn amser drwg.

4. Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,a chenir galargan chwerw a dweud,‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.Sut y gall neb adfer i miein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”

5. Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.

6. Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.

7. A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?

8. ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 2