Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Tynged Gormeswyr y Tlawd

1. Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau,ac ar doriad dydd yn ei wneud,cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.

2. Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,a thai, ac yn eu meddiannu;y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,dyn a'i etifeddiaeth.

3. Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwgna all eich gwarrau ei osgoi;ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,oherwydd bydd yn amser drwg.

4. Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,a chenir galargan chwerw a dweud,‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.Sut y gall neb adfer i miein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”

5. Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.

Ymryson â'r Gau Broffwydi

6. Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.

7. A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?

8. ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.

9. Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.

10. Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.

11. Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”

12. “Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,a chynullaf ynghyd weddill Israel;gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

13. Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. eu brenin o'u blaenau,a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”