Hen Destament

Testament Newydd

Llythyr Jeremeia 1:55-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

55. Pan syrth tân ar deml y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur neu arian, bydd eu hoffeiriaid yn ffoi i ddiogelwch, ond llosgir y duwiau eu hunain fel trawstiau yng nghanol y tân.

56. Ni allant fyth wrthsefyll na brenin na gelynion. Pa fodd y gellir derbyn neu gyfrif eu bod yn dduwiau?

57. Ni all y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o arian ac aur, fyth eu diogelu eu hunain rhag lladron ac ysbeilwyr.

58. Bydd y cryfion yn dwyn oddi arnynt yr aur a'r arian a'r dillad sydd amdanynt, ac yn mynd â'r cwbl ymaith gyda hwy, heb iddynt fedru gwneud dim i'w diogelu eu hunain.

59. Gwell brenin yn dangos ei wrhydri, neu lestr mewn tŷ, y gall ei berchennog ei ddefnyddio fel y myn, na'r duwiau gau hyn. Gwell drws ar dŷ, sy'n cadw'n ddiogel y pethau o'i fewn, na'r duwiau gau hyn. Gwell colofn bren yn nhŷ'r brenin na'r duwiau gau hyn.

60. Y mae'r haul a'r lloer a'r sêr disglair wedi eu hanfon i bwrpas, ac y maent yn ufudd.

61. Felly hefyd y mae'r fellten, pan oleua, yn hawdd ei gweld.

62. A'r un modd y mae'r gwynt yn chwythu ym mhob gwlad. A phan fydd Duw yn gorchymyn i'r cymylau dramwyo dros yr holl fyd, byddant yn cyflawni'r hyn a orchmynnwyd iddynt.

63. Felly hefyd y tân, pan fydd Duw'n ei anfon i ddifa mynyddoedd a choed, bydd yntau'n gwneud yr hyn a orchmynnwyd. Ond nid yw'r delwau i'w cymharu â'r rhain o ran eu gwedd na'u grym.

64. Ni ellir felly eu cyfrif na'u galw yn dduwiau, gan na allant roi barn mewn llys na gwneud lles i neb.

65. Gwybyddwch, felly, nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.

66. Ni allant fyth felltithio na bendithio brenhinoedd.

67. Ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd i'r cenhedloedd, gan nad ydynt yn goleuo fel yr haul nac yn llewyrchu fel y lloer.

68. Y mae'r anifeiliaid gwyllt yn rhagori arnynt, gan eu bod yn medru ffoi a'u diogelu eu hunain mewn lloches.

69. Gan hynny, nid oes gennym unrhyw fath o dystiolaeth eu bod yn dduwiau. Felly peidiwch â'u hofni.

70. Fel bwgan brain nad yw'n amddiffyn dim mewn gardd lysiau, felly y mae'r duwiau pren hyn o'r eiddynt, gyda'u gorchudd o aur ac arian.

Darllenwch bennod gyflawn Llythyr Jeremeia 1