Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw,

3. a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod.”

4. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod.

5. Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud.

6. Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy â dŵr.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8