Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 7:25-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

26. Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.

27. Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.’ ”

28. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

29. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae unrhyw un sy'n dod â heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.

30. Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; y mae i ddod â'r braster yn ogystal â'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.

31. Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.

32. Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.

33. Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.

34. Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 7