Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “ ‘Dyma ddeddf yr offrwm dros gamwedd sy'n gwbl sanctaidd:

2. Y mae'r offrwm dros gamwedd i'w ladd yn y lle y lleddir y poethoffrwm, a'i waed i'w luchio ar bob ochr i'r allor.

3. Y mae'r cyfan o'i fraster i'w offrymu, sef y gynffon fras a'r braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd,

4. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

5. Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 7