Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 2:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. tor ef yn ddarnau a thywallt olew drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.

7. Os bwydoffrwm wedi ei baratoi mewn padell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid wedi ei wneud ag olew.

8. Byddi'n cyflwyno i'r ARGLWYDD y bwydoffrwm wedi ei wneud o'r pethau hyn, ac yn dod ag ef at yr offeiriad; bydd yntau'n dod ag ef at yr allor.

9. Bydd ef yn cymryd o'r bwydoffrwm y gyfran goffa ac yn ei llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

10. Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.

11. “ ‘Ni wneir â lefain unrhyw fwydoffrwm a ddygwch i'r ARGLWYDD, oherwydd nid ydych i losgi unrhyw furum na mêl yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

12. Gallwch eu cyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm blaenffrwyth, ond nid ydych i'w hoffrymu ar yr allor yn arogl peraidd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 2