Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 15:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

7. Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â chorff y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

8. Os bydd rhywun â diferlif arno yn poeri ar unrhyw un glân, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

9. Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan,

10. a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

11. Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd â diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn dŵr, i olchi ei ddillad, ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

12. Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn â diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi â dŵr.

13. “ ‘Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi â dŵr croyw, a bydd yn lân.

14. Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad.

15. Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd â diferlif.

16. “ ‘Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr.

17. Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

18. Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 15