Hen Destament

Testament Newydd

Judith 9:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.

5. Oherwydd ti a wnaeth y pethau hynny, a'r pethau a fu o'u blaen a'r pethau a'u dilynodd; ti a fwriadodd yr hyn sy'n digwydd yn awr a'r hyn sydd i ddod.

6. Y mae'r pethau a gynlluniaist ti yma wrth law yn dweud, ‘Dyma ni.’ Oherwydd parod yw dy holl ffyrdd, a rhagwybodaeth sy'n llywio dy farn.

7. Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 9