Hen Destament

Testament Newydd

Judith 7:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Ond dywedodd Osias wrthynt, “Codwch eich calon, gyfeillion; gadewch inni ddal ati am bum diwrnod eto; erbyn hynny, bydd yr Arglwydd ein Duw wedi adfer ei drugaredd tuag atom, oherwydd ni bydd ef yn cefnu arnom yn y diwedd.

31. Ond os â'r dyddiau hyn heibio heb i gymorth ddod inni, gwnaf yn ôl eich dymuniad.”

32. Gollyngodd y bobl, a'u hanfon bob un i'w safle ei hun, ac aethant hwythau ymaith i furiau a thyrau eu tref, ac anfon eu gwragedd a'u plant i'w cartrefi; a thrwy'r dref yr oedd digalondid mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 7