Hen Destament

Testament Newydd

Judith 7:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yn awr, nid oes gennym neb i fod yn gefn inni, oherwydd y mae Duw wedi ein gwerthu i'w dwylo hwy, fel y'n ceir ganddynt wedi ein gwasgaru ar lawr mewn syched a diymadferthedd llwyr.

26. Am hynny, galw hwy i mewn, ac ildia'r holl dref yn ysbail i bobl Holoffernes ac i'w fyddin i gyd.

27. Bydd mynd yn anrhaith iddynt yn well i ni, oherwydd fel caethweision fe gawn gadw ein heinioes, a'n harbed rhag gweld ein babanod yn marw o flaen ein llygaid, a'n gwragedd a'n plant yn trengi.

28. Galwn yn dyst yn eich erbyn y nefoedd a'r ddaear, a'n Duw ni ac Arglwydd ein hynafiaid, yr hwn sy'n ein cosbi yn ôl ein pechodau ni ac yn ôl gweithredoedd pechadurus ein hynafiaid. Na foed iddo ef heddiw weithredu yn ôl y geiriau hyn.”

29. Yna bu wylofain mawr a chyffredinol ymhlith y gynulleidfa, a gwaeddasant yn uchel ar yr Arglwydd eu Duw.

30. Ond dywedodd Osias wrthynt, “Codwch eich calon, gyfeillion; gadewch inni ddal ati am bum diwrnod eto; erbyn hynny, bydd yr Arglwydd ein Duw wedi adfer ei drugaredd tuag atom, oherwydd ni bydd ef yn cefnu arnom yn y diwedd.

31. Ond os â'r dyddiau hyn heibio heb i gymorth ddod inni, gwnaf yn ôl eich dymuniad.”

32. Gollyngodd y bobl, a'u hanfon bob un i'w safle ei hun, ac aethant hwythau ymaith i furiau a thyrau eu tref, ac anfon eu gwragedd a'u plant i'w cartrefi; a thrwy'r dref yr oedd digalondid mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 7