Hen Destament

Testament Newydd

Judith 7:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Trannoeth gorchmynnodd Holoffernes i'w holl fyddin, a phawb a ddaethai'n gynghreiriaid iddo, symud yn erbyn Bethulia, a meddiannu bylchau'r mynydd-dir, ac ymosod ar yr Israeliaid.

2. Y diwrnod hwnnw symudodd yr holl ryfelwyr eu gwersyll, yn dyrfa enfawr: eu lluoedd arfog yn gant saith deg o filoedd o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch, heb gyfrif y gwŷr traed a oedd yn cludo cyfreidiau'r fyddin.

3. Ar ôl iddynt wersyllu yn y dyffryn ger Bethulia, wrth y ffynnon, yr oedd eu gwersyll yn ymestyn i gyfeiriad Dothan mor bell â Belbaim yn ei led, ac yn ei hyd o Bethulia i Cyamon gogyfer ag Esdraelon.

4. Pan welodd yr Israeliaid y llu enfawr ohonynt, daeth ofn mawr arnynt, ac meddent bob un wrth ei gymydog, “Dinoethir yn awr holl wyneb y ddaear gan y rhai hyn; ni ddichon y mynyddoedd uchel na'r dyffrynnoedd na'r bryniau ddal eu pwysau.”

5. Cymerodd pob un ei arfau rhyfel, ac wedi cynnau coelcerthi ar eu tyrau, arosasant ar wyliadwriaeth ar hyd y noson honno.

6. Y diwrnod wedyn, arweiniodd Holoffernes ei holl wŷr meirch allan yng ngolwg yr Israeliaid oedd yn Bethulia.

7. Wedi chwilio'r ffyrdd i fyny i'w tref hwy, cafodd hyd i'w ffynhonnau dŵr a'u meddiannu, ac wedi gadael milwyr i'w gwarchod, dychwelodd at ei bobl.

8. Yna, daeth ato holl lywodraethwyr yr Edomiaid, arweinwyr y Moabiaid a phenaethiaid yr arfordir, a dweud,

9. “Gwrandawed ein harglwydd ar ein gair, rhag i'w fyddin ddioddef colled.

10. Nid yn eu gwaywffyn y mae'r bobl hyn, yr Israeliaid, yn ymddiried, ond yn uchder y mynyddoedd lle y maent yn preswylio, oherwydd nid yn hawdd y gellir cyrraedd copaon eu mynyddoedd hwy.

11. Felly, f'arglwydd, paid â rhyfela yn eu herbyn yn y dull arferol, ac ni chollir un gŵr o'th fyddin.

12. Aros yn dy wersyll a diogela bob un o'th filwyr; a goresgynned dy weision y ffynnon ddŵr sy'n llifo allan o odre'r mynydd,

13. oherwydd ohoni hi y caiff holl drigolion Bethulia eu dŵr. Fe'u difethir gan syched, ac fe ildiant eu tref. Yna fe awn ninnau a'n pobl i fyny i gopaon y mynyddoedd cyfagos a gwersyllu arnynt, i ofalu na all neb fynd allan o'r dref.

14. Dihoenant o newyn, hwy a'u gwragedd a'u plant, ac fe'u gwasgerir hwy'n gyrff ar heolydd eu trigle cyn i gleddyf ddod yn agos atynt.

15. Dyma'r ffordd iti dalu'r pwyth yn ôl, drwg am eu drwg hwy yn gwrthryfela a gwrthod dy gyfarfod mewn heddwch.”

16. Yr oedd eu geiriau wrth fodd Holoffernes a'i holl osgordd, a gorchmynnodd weithredu yn ôl eu cynllun.

17. Symudodd yr Ammoniaid, ynghyd â phum mil o Asyriaid, eu gwersyll a'i sefydlu yn y dyffryn, a goresgyn y ffynhonnau, cyflenwad dŵr yr Israeliaid.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 7