Hen Destament

Testament Newydd

Judith 6:7-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,

8. ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.

9. Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”

10. Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.

11. Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.

12. Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.

13. Llithrasant hwy dan gysgod y mynydd, a chlymu Achior, ac wedi ei daflu i lawr, ei adael yn gorwedd wrth droed y mynydd, a dychwelyd at eu harglwydd.

14. Pan ddaeth yr Israeliaid i lawr o'u tref a'i ddarganfod yno, datodasant ei rwymau a mynd ag ef i Bethulia a'i osod gerbron y rhai oedd yn llywodraethwyr eu tref

15. yr adeg honno, sef Osias fab Micha, o lwyth Simeon, Chabris fab Gothoniel, a Charmis fab Melchiel.

16. A dyma hwy'n gwysio holl henuriaid y dref i gyfarfod, a brysiodd yr holl wŷr ifainc a'r gwragedd i'r cyfarfod. Dygwyd Achior gerbron yr holl bobl, a gofynnodd Osias iddo beth oedd wedi digwydd.

17. Atebodd yntau trwy adrodd hanes cyngor Holoffernes, yr holl bethau a ddywedodd ef ei hun gerbronllywodraethwyr Asyria, a phopeth a ddywedodd Holoffernes mewn bygwth ymffrostgar yn erbyn Israel.

18. Yna syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad, a gweiddi'n uchel ar Dduw,

19. “Arglwydd Dduw y nefoedd, gwêl eu balchder; tosturia wrth ddarostyngiad ein cenedl, a dangos heddiw dy ffafr i'th bobl sanctaidd.”

20. Yna rhoesant eu cymeradwyaeth i Achior, a'i ganmol yn fawr.

21. Cymerodd Osias ef o'r cyfarfod i'w dŷ ei hun, a gwnaeth wledd i'r henuriaid; a thrwy'r holl noson honno buont yn galw ar Dduw Israel am ei gymorth.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 6