Hen Destament

Testament Newydd

Judith 6:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.

12. Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.

13. Llithrasant hwy dan gysgod y mynydd, a chlymu Achior, ac wedi ei daflu i lawr, ei adael yn gorwedd wrth droed y mynydd, a dychwelyd at eu harglwydd.

14. Pan ddaeth yr Israeliaid i lawr o'u tref a'i ddarganfod yno, datodasant ei rwymau a mynd ag ef i Bethulia a'i osod gerbron y rhai oedd yn llywodraethwyr eu tref

Darllenwch bennod gyflawn Judith 6