Hen Destament

Testament Newydd

Judith 6:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.

11. Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.

12. Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.

13. Llithrasant hwy dan gysgod y mynydd, a chlymu Achior, ac wedi ei daflu i lawr, ei adael yn gorwedd wrth droed y mynydd, a dychwelyd at eu harglwydd.

14. Pan ddaeth yr Israeliaid i lawr o'u tref a'i ddarganfod yno, datodasant ei rwymau a mynd ag ef i Bethulia a'i osod gerbron y rhai oedd yn llywodraethwyr eu tref

15. yr adeg honno, sef Osias fab Micha, o lwyth Simeon, Chabris fab Gothoniel, a Charmis fab Melchiel.

16. A dyma hwy'n gwysio holl henuriaid y dref i gyfarfod, a brysiodd yr holl wŷr ifainc a'r gwragedd i'r cyfarfod. Dygwyd Achior gerbron yr holl bobl, a gofynnodd Osias iddo beth oedd wedi digwydd.

17. Atebodd yntau trwy adrodd hanes cyngor Holoffernes, yr holl bethau a ddywedodd ef ei hun gerbronllywodraethwyr Asyria, a phopeth a ddywedodd Holoffernes mewn bygwth ymffrostgar yn erbyn Israel.

18. Yna syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad, a gweiddi'n uchel ar Dduw,

19. “Arglwydd Dduw y nefoedd, gwêl eu balchder; tosturia wrth ddarostyngiad ein cenedl, a dangos heddiw dy ffafr i'th bobl sanctaidd.”

Darllenwch bennod gyflawn Judith 6