Hen Destament

Testament Newydd

Judith 6:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddistawodd dwndwr y bobl oedd o amgylch y cyngor, dywedodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, wrth Achior yng ngŵydd yr holl estroniaid, ac wrth holl bobl Moab,

2. “A phwy wyt ti, Achior, ti a'th filwyr cyflog o Effraim, i broffwydo yn ein mysg fel y gwnaethost heddiw, a'n gwahardd rhag rhyfela yn erbyn cenedl Israel am y byddai eu Duw yn eu hamddiffyn? Pwy sydd Dduw ond Nebuchadnesar?

3. Pan enfyn ef ei lu nerthol, fe'u hysguba'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear, ac ni chânt waredigaeth gan eu Duw. Ond nyni, gweision Nebuchadnesar ydym; fe'u darostyngwn hwy fel un gŵr, ac ni ddaliant eu tir o flaen ein gwŷr meirch;

4. byddwn yn eu difa'n llwyr. Bydd eu mynyddoedd yn feddw ar eu gwaed, a'u gwastadeddau yn llawn o'u cyrff. Ni allant sefyll yn ein herbyn, ond fe'u llwyr ddifethir, medd y Brenin Nebuchadnesar, arglwydd yr holl ddaear. Y mae ef wedi llefaru, ac ni phrofir yn ofer yr un o'r geiriau a lefarodd ef.

5. Ond amdanat ti, Achior, ti was cyflog Ammon, yn dy anwiredd y lleferaist ti y geiriau hyn heddiw; ni chei weld fy wyneb eto, o'r dydd hwn nes i mi ddial ar hiliogaeth y ffoaduriaid hynny o'r Aifft.

6. Ond pan ddychwelaf, caiff cleddyfau fy milwyr a gwaywffyn fy ngosgordd dy drywanu drwy dy ystlysau, ac fe syrthi dithau ymhlith eu clwyfedigion.

7. Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,

8. ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.

9. Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”

10. Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.

11. Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 6