Hen Destament

Testament Newydd

Judith 5:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. buont yn trigo gynt yn Mesopotamia, am iddynt wrthod dilyn duwiau eu hynafiaid, a fu'n byw yn Caldea.

8. Yr oeddent wedi cefnu ar arferion eu hynafiaid a throi i addoli Duw y Nefoedd, y Duw yr oeddent wedi dod i'w adnabod. Gyrrodd y Caldeaid hwy allan o ŵydd eu duwiau, a ffoesant hwythau i Mesopotamia, lle buont yn trigo am gyfnod hir.

9. Yna galwodd eu Duw arnynt i ymadael â'u trigfa yno a mynd i wlad Canaan. Yno bu iddynt ymgartrefu a chasglu cyfoeth mawr mewn aur, arian ac anifeiliaid lawer.

10. Aethant i lawr i'r Aifft pan ymledodd newyn dros wlad Canaan, a byw yno tra oedd cyflenwad o fwyd iddynt. Ac yno lluosogodd eu nifer gymaint fel na ellid rhifo'u poblogaeth,

11. a throes brenin yr Aifft yn eu herbyn, ac ymddwyn yn ddichellgar atynt drwy beri iddynt lafurio'n galed i wneud priddfeini, a'u darostwng i safle caethweision.

12. Llefasant hwythau ar eu Duw, a thrawodd ef holl wlad yr Aifft â phlâu nad oedd meddyginiaeth iddynt. Gyrrodd yr Eifftiaid hwy allan.

13. A sychodd Duw y Môr Coch o'u blaen,

14. a'u harwain i Fynydd Sinai a Cades-barnea. Bwriasant allan holl drigolion yr anialwch,

15. a thrigasant yng ngwlad yr Amoriaid, gan ddinistrio'n llwyr â'u llu nerthol holl bobl Hesbon. Yna, ar ôl croesi'r Iorddonen a meddiannu'r holl fynydd-dir,

16. gyrasant allan o'u blaen y Canaaneaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Sichemiaid a'r holl Gergesiaid, ac ymgartrefu yno am gyfnod maith.

17. Cyhyd ag y peidient â phechu yn erbyn eu Duw, fe fyddai llwyddiant iddynt, gan mai Duw sy'n casáu drygioni yw eu Duw hwy.

18. Felly, pan wyrasant oddi ar y llwybr a osododd ef iddynt, dinistriwyd hwy'n llwyr mewn rhyfeloedd lawer, a'u cludo'n garcharorion i wlad arall. Dymchwelwyd i'r llawr deml eu Duw, a goresgynnwyd eu trefi gan eu gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 5