Hen Destament

Testament Newydd

Judith 5:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan dderbyniodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, y newydd fod yr Israeliaid wedi ymbaratoi at ryfel, eu bod wedi cau bylchau'r mynydd-dir ac wedi cadarnhau holl gopaon yr ucheldir, ac wedi gosod maglau ar y gwastadeddau, aeth yn gynddeiriog.

2. Galwodd ato holl lywodraethwyr Moab, cadfridogion Ammon, a holl benaethiaid yr arfordir,

3. a dweud wrthynt, “Dywedwch wrthyf yn awr, chwi Ganaaneaid, pwy yw'r bobl hyn sy'n trigo yn y mynydd-dir? Ym mha drefi y maent yn preswylio? Beth yw nifer eu byddin? O ble y daw eu grym a'u gallu? Pa frenin sy'n llywodraethu arnynt ac yn arwain eu byddinoedd?

4. Pam y bu iddynt hwy'n unig o holl drigolion y gorllewin wrthod dod i'm cyfarfod?”

5. Atebodd Achior, arweinydd yr holl Ammoniaid, ef: “Gwrandawed f'arglwydd air o enau ei was, ac fe ddywedaf y gwir wrthyt am y bobl hyn, trigolion y mynydd-dir hwn sy'n gyfagos iti: ni ddaw un celwydd allan o enau dy was.

6. Disgynyddion y Caldeaid yw'r bobl hyn;

7. buont yn trigo gynt yn Mesopotamia, am iddynt wrthod dilyn duwiau eu hynafiaid, a fu'n byw yn Caldea.

8. Yr oeddent wedi cefnu ar arferion eu hynafiaid a throi i addoli Duw y Nefoedd, y Duw yr oeddent wedi dod i'w adnabod. Gyrrodd y Caldeaid hwy allan o ŵydd eu duwiau, a ffoesant hwythau i Mesopotamia, lle buont yn trigo am gyfnod hir.

9. Yna galwodd eu Duw arnynt i ymadael â'u trigfa yno a mynd i wlad Canaan. Yno bu iddynt ymgartrefu a chasglu cyfoeth mawr mewn aur, arian ac anifeiliaid lawer.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 5