1. Pan dderbyniodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, y newydd fod yr Israeliaid wedi ymbaratoi at ryfel, eu bod wedi cau bylchau'r mynydd-dir ac wedi cadarnhau holl gopaon yr ucheldir, ac wedi gosod maglau ar y gwastadeddau, aeth yn gynddeiriog.
2. Galwodd ato holl lywodraethwyr Moab, cadfridogion Ammon, a holl benaethiaid yr arfordir,
3. a dweud wrthynt, “Dywedwch wrthyf yn awr, chwi Ganaaneaid, pwy yw'r bobl hyn sy'n trigo yn y mynydd-dir? Ym mha drefi y maent yn preswylio? Beth yw nifer eu byddin? O ble y daw eu grym a'u gallu? Pa frenin sy'n llywodraethu arnynt ac yn arwain eu byddinoedd?
4. Pam y bu iddynt hwy'n unig o holl drigolion y gorllewin wrthod dod i'm cyfarfod?”
5. Atebodd Achior, arweinydd yr holl Ammoniaid, ef: “Gwrandawed f'arglwydd air o enau ei was, ac fe ddywedaf y gwir wrthyt am y bobl hyn, trigolion y mynydd-dir hwn sy'n gyfagos iti: ni ddaw un celwydd allan o enau dy was.