Hen Destament

Testament Newydd

Judith 4:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Wedi meddiannu copaon yr holl fryniau uchel a chadarnhau'r pentrefi oedd arnynt, rhoesant ddigon o fwyd ynghadw ar gyfer rhyfel; newydd orffen medi'r meysydd yr oeddent.

6. Ysgrifennodd Joacim yr archoffeiriad, a oedd yr adeg honno yn Jerwsalem, at drigolion Bethulia a Betomesthaim, lle sy'n wynebu ar Esdraelon, gyferbyn â'r gwastatir ger Dothan.

7. Dywedodd wrthynt am feddiannu bylchau'r mynydd-dir, oherwydd trwyddynt hwy yr oedd cael ffordd i mewn i Jwdea; a chan fod y fynedfa'n rhy gul ar gyfer mwy na dau, gellid yn hawdd rwystro'r fyddin rhag symud ymlaen.

8. Felly y gweithredodd yr Israeliaid yn ôl gorchymyn Joacim yr archoffeiriad a senedd holl bobl Israel, a oedd yn eistedd yn Jerwsalem.

9. Â thaerineb mawr llefodd pob gŵr yn Israel ar Dduw, ac ymddarostwng â thaerineb mawr.

10. Rhoesant sachliain am eu llwynau, hwy a'u gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, a phob preswylydd estron a gwas cyflog a chaethwas,

11. a syrthiodd pob gŵr o Israeliad a oedd yn byw yn Jerwsalem, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, o flaen y deml; taenasant ludw ar eu pennau a lledu eu sachlieiniau o flaen yr Arglwydd.

12. Ar ôl gwisgo'r allor hefyd â sachliain, gwaeddasant yn daer ag un llais ar Dduw Israel, iddo beidio â gadael i'w babanod gael eu dwyn yn ysbail, i'w gwragedd fynd yn anrhaith, i'w dinasoedd treftadol gael eu difodi a'u teml ei halogi er llawenydd maleisus y Cenhedloedd.

13. Gwrandawodd yr Arglwydd ar eu cri a thosturio wrth eu gorthrymder. Ymroes y bobl yn holl Jwdea a Jerwsalem i ymprydio am lawer o ddyddiau o flaen teml yr Arglwydd Hollalluog.

14. Yr oedd Joacim yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid a safai gerbron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini ar yr Arglwydd, wedi gwregysu eu llwynau â sachlieiniau, ac yn offrymu'r poethoffrwm arferol, yr addunedau a rhoddion gwirfoddol y bobl.

15. Â lludw ar eu penwisg, dalient i lefain â'u holl egni ar i'r Arglwydd ymweld â holl dŷ Israel er daioni.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 4