16. a threfnodd hwy yn y dull arferol ar gyfer brwydr.
17. Cymerodd nifer enfawr o gamelod, asynnod a mulod i gario eu cyfreidiau; defaid, ychen a geifr di-rif i sicrhau darpariaeth
18. a dogn ddigonol o fwyd i bob un; ac yn ychwanegol, swm enfawr o aur ac arian o blas y brenin.
19. Yna cychwynnodd, ef a'i holl fyddin, i arloesi'r ffordd i Nebuchadnesar a gorchuddio holl wyneb y rhanbarth gorllewinol a'u cerbydau, eu gwŷr meirch a'u gwŷr traed dethol.
20. Yr oedd y cwmni cymysgryw a'u dilynodd fel haid o locustiaid neu fel llwch y ddaear, yn llu dirifedi.
21. Aethant o Ninefe daith dridiau i ymyl gwastatir Bectileth, a gwersyllu gerllaw Bectileth yn agos i'r mynydd i'r gogledd o Cilicia Uchaf.
22. Oddi yno symudodd Holoffernes ymlaen i'r mynydd-dir gyda'i holl fyddin, ei wŷr traed a'i wŷr meirch a'i gerbydau.
23. Difrododd Phwd a Lwd, ac anrheithio holl drigolion Rassis a'r Ismaeliaid ar ffin yr anialwch i'r de o wlad y Cheliaid.
24. Dilynodd Afon Ewffrates, a thramwyo drwy Mesopotamia gan lwyr ddinistrio'r holl drefi caerog ar lannau Afon Abron hyd at y môr.
25. Meddiannodd diriogaeth Cilicia, a lladd pawb a'i gwrthwynebai. Yna aeth i'r de i gyffiniau Jaffeth, a oedd yn ffinio ar Arabia.
26. Amgylchynodd yr holl Fidianiaid, a llosgi eu pebyll ac ysbeilio'u corlannau.
27. Aeth i lawr i wastatir Damascus ar adeg y cynhaeaf gwenith, a llosgi eu holl gnydau, difrodi eu defaid a'u gwartheg, dinistrio'u trefi, dinoethi eu meysydd, a thrywanu eu holl wŷr ifainc â min y cledd.