Hen Destament

Testament Newydd

Judith 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y ddeunawfed flwyddyn, ar yr ail ddydd ar hugain o'r mis cyntaf, yn nhŷ Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, bu sôn am ddial ar yr holl ranbarth, fel yr oedd ef wedi bygwth eisoes.

2. Galwodd ynghyd ei holl swyddogion a'i holl bendefigion, a thrafod gyda hwy ei gynllun cudd, a chyhoeddi â'i enau ei hun derfyn ar holl ddrygioni'r rhanbarth.

3. Gwnaethant benderfyniad i ddinistrio pawb nad oedd wedi ufuddhau i orchymyn y brenin.

4. Yna, wedi iddo orffen egluro'i gynllun, galwodd Nebuchadnesar brenin Asyria ar Holoffernes, prif gadfridog ei fyddin, a'i ddirprwy, a dywedodd wrtho,

5. “Dyma orchymyn y brenin mawr, Arglwydd yr holl ddaear: dos allan o'm gŵydd, a chymer gyda thi wŷr eofn a chadarn, chwech ugain mil o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch.

6. Yr wyt i ryfela yn erbyn yr holl ranbarth gorllewinol, am i'w drigolion anufuddhau i'm gorchymyn i.

7. Dywed wrthynt am baratoi offrwm o bridd a dŵr, oherwydd yr wyf yn dod allan yn fy llid yn eu herbyn. Gorchuddiaf holl wyneb eu tir â thraed fy myddin, ac fe'u rhoddaf hwy yn ysbail i'm milwyr.

8. Bydd eu clwyfedigion yn llenwi'r ceunentydd, a bydd pob ffos ac afon yn llifo a gorlifo â chyrff;

9. a chymeraf hwy yn gaethglud i eithafoedd y ddaear.

10. A thithau, brysia i feddiannu i mi eu holl diriogaeth;

11. os ildio a wnânt i ti, gwarchod hwy drosof hyd amser eu cosbi. Ond i'r rhai sy'n anufudd paid â dangos trugaredd; traddoda hwy i gael eu lladd a'u hysbeilio trwy'r holl ranbarth a berthyn iti.

12. Ar fy mywyd ac ar holl nerth fy mrenhiniaeth y tyngaf: yr hyn a leferais, fe'i cyflawnaf â'm llaw fy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 2