Hen Destament

Testament Newydd

Judith 16:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Diddymodd yr Arglwydd Hollalluog hwytrwy law benyw.

7. Oherwydd nid trwy law gwŷr ifainc y syrthiodd eu harwr;nid meibion Titan a'i darostyngodd;nid cewri talgryf a ymosododd arno;ond Judith, merch Merari, a'i diarfogodd â thegwch ei gwedd.

8. Wedi diosg gwisg gweddwdodi ddyrchafu'r rhai gorthrymedig yn Israel,eneiniodd ei hwyneb ag ennaint,rhwymodd ei gwallt â phenwisg,a gwisgodd ŵn o liain main i'w hudo.

9. Daliodd ei sandal ei lygad,a chaethiwodd ei phrydferthwch ei galon;a dyna'r cleddyf yn syth drwy ei wddf.

10. Crynodd y Persiaid oherwydd ei beiddgarwch,a chyffrowyd y Mediaid gan ei hyfdra.

11. Yna bloeddiodd fy rhai distadl mewn buddugoliaeth,ac ofnodd y gelyn; gwaeddodd fy ngweiniaid, ac fe'u dychrynwyd;gwaeddasant hwy yn uwch, ac aeth ef ar ffo.

12. Plant morynion a'i trywanodd,a'i glwyfo fel ffoadur;fe'i dinistriwyd gan reng milwyr fy Arglwydd.

13. “Canaf i'm Duw gân newydd:Arglwydd, mawr ydwyt a gogoneddus,rhyfeddol dy nerth, ac anorchfygol.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 16