13. “Canaf i'm Duw gân newydd:Arglwydd, mawr ydwyt a gogoneddus,rhyfeddol dy nerth, ac anorchfygol.
14. Gwasanaethed dy holl greadigaeth di,oherwydd lleferaist, a daeth popeth i fod;anfonaist dy ysbryd, a chyfannwyd popeth.Ac nid oes neb a all wrthsefyll dy lais.
15. Y mynyddoedd ynghyd â'r moroedd, fe'u siglir i'w seiliau;toddir y creigiau fel cŵyr o'th flaen;eto i'r rhai sy'n dy ofni,trugaredd a ddangosi di.
16. Peth bychan yn wir yw perarogl pob offrwm,ac annigonol yw holl fraster y poethoffrymau,ond mawr dros byth yw'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.
17. Gwae'r cenhedloedd sy'n codi yn erbyn fy mhobl;yr Arglwydd Hollalluog a'u cosba yn Nydd y Farn,a rhoi eu cyrff i'r tân a'r pryfed;a byddant yn wylofain mewn poen am byth.”
18. Wedi cyrraedd Jerwsalem, syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad i Dduw, ac wedi eu puro, offrymasant eu poethoffrymau, eu hoffrymau gwirfoddol a'u rhoddion.
19. Cysegrodd Judith i Dduw holl eiddo Holoffernes, a roddodd y bobl iddi, ac offrymodd i Dduw y llen a gymerodd hi ei hun o'i ystafell wely.
20. Am dri mis, bu'r bobl yn gorfoleddu yn Jerwsalem gerbron y cysegr, ac arhosodd Judith gyda hwy.
21. Ar ôl hyn aeth pawb i'w gartref ei hun, a dychwelodd Judith i Bethulia a byw ar ei hystad. Ac yr oedd enw da iddi drwy'r wlad ar hyd ei hoes.
22. Bu llawer yn ei chwenychu, ond ni roddodd ei hun i un gŵr o'r dydd y bu farw ei phriod Manasse a'i gladdu gyda'i hynafiaid.
23. Cynyddodd ei henwogrwydd yn ddirfawr fel yr heneiddiai yn nhŷ ei gŵr, nes iddi gyrraedd yr oedran o gant a phump. Rhoddodd ei rhyddid i'w morwyn. Bu farw yn Bethulia, a chladdwyd hi yn yr ogof lle gorweddai ei gŵr Manasse.