Hen Destament

Testament Newydd

Judith 16:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Crynodd y Persiaid oherwydd ei beiddgarwch,a chyffrowyd y Mediaid gan ei hyfdra.

11. Yna bloeddiodd fy rhai distadl mewn buddugoliaeth,ac ofnodd y gelyn; gwaeddodd fy ngweiniaid, ac fe'u dychrynwyd;gwaeddasant hwy yn uwch, ac aeth ef ar ffo.

12. Plant morynion a'i trywanodd,a'i glwyfo fel ffoadur;fe'i dinistriwyd gan reng milwyr fy Arglwydd.

13. “Canaf i'm Duw gân newydd:Arglwydd, mawr ydwyt a gogoneddus,rhyfeddol dy nerth, ac anorchfygol.

14. Gwasanaethed dy holl greadigaeth di,oherwydd lleferaist, a daeth popeth i fod;anfonaist dy ysbryd, a chyfannwyd popeth.Ac nid oes neb a all wrthsefyll dy lais.

15. Y mynyddoedd ynghyd â'r moroedd, fe'u siglir i'w seiliau;toddir y creigiau fel cŵyr o'th flaen;eto i'r rhai sy'n dy ofni,trugaredd a ddangosi di.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 16