Hen Destament

Testament Newydd

Judith 16:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ym mhresenoldeb holl Israel, dechreuodd Judith ganu emyn o ddiolchgarwch, a'r holl bobl yn codi eu lleisiau i ymuno yn y mawl. Dyma eiriau Judith:

2. “Dechreuwch foliannu fy Nuw i â thabyrddau;canwch i'r Arglwydd â symbalau;tiwniwch iddo salm ac emyn.Dyrchafwch ei enw a galwch arno.

3. Oherwydd Duw sy'n rhoi terfyn ar ryfel yw'r Arglwydd;i mewn i'w wersyll, yng nghanol ei bobl,y'm dygodd i ddiogelwch o law fy erlidwyr.

4. Daeth Asyria i lawr o fynyddoedd y gogledd;daeth â degau o filoedd o'i byddin;llanwodd eu llu enfawr y ceunentydd,a chuddiodd eu gwŷr meirch y bryniau.

5. Bygythiodd ddifa fy nhiriogaeth â thân,lladd fy ngwŷr ifainc â'r cleddyf,hyrddio fy mhlant sugno i'r ddaear,dwyn fy mabanod yn ysbail,a chymryd fy morynion yn ysglyfaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 16