1. Ym mhresenoldeb holl Israel, dechreuodd Judith ganu emyn o ddiolchgarwch, a'r holl bobl yn codi eu lleisiau i ymuno yn y mawl. Dyma eiriau Judith:
2. “Dechreuwch foliannu fy Nuw i â thabyrddau;canwch i'r Arglwydd â symbalau;tiwniwch iddo salm ac emyn.Dyrchafwch ei enw a galwch arno.
3. Oherwydd Duw sy'n rhoi terfyn ar ryfel yw'r Arglwydd;i mewn i'w wersyll, yng nghanol ei bobl,y'm dygodd i ddiogelwch o law fy erlidwyr.
4. Daeth Asyria i lawr o fynyddoedd y gogledd;daeth â degau o filoedd o'i byddin;llanwodd eu llu enfawr y ceunentydd,a chuddiodd eu gwŷr meirch y bryniau.