Hen Destament

Testament Newydd

Judith 14:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Wedi iddynt ei godi, syrthiodd wrth draed Judith ac ymgrymu ger ei bron a dweud, “Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, ac ym mhob cenedl! Daw ofn dirfawr ar bawb a glywant dy enw.

8. Yn awr, adrodd imi hanes y cwbl a wnaethost yn ystod y dyddiau hyn.” A dyma Judith yn sefyll yng nghanol y bobl ac yn adrodd iddo'r cwbl yr oedd hi wedi ei wneud o'r dydd yr aeth allan hyd y foment yr oedd yn siarad â hwy.

9. Wedi iddi orffen, bloeddiodd y bobl â llais uchel, nes bod sŵn eu llawenydd yn atseinio trwy eu tref.

10. Pan welodd Achior y cwbl a wnaeth Duw Israel, credodd yn frwd yn Nuw; derbyniodd enwaediad a chael ei gorffori yn nhŷ Israel hyd y dydd hwn.

11. Pan wawriodd y bore, crogasant ben Holoffernes ar y mur, a chymerodd pob un ei arfau a mynd allan yn gatrodau i fylchau'r mynydd-dir.

12. Gwelodd yr Asyriaid hwy, ac anfon neges at eu harweinwyr; aethant hwythau at y cadfridogion, capteiniaid y miloedd, a phob swyddog arall.

13. Aethant i babell Holoffernes a dweud wrth yr un a ofalai am ei holl eiddo: “Yn awr, deffro ein harglwydd, oherwydd meiddiodd y caethweision ddod i lawr i ryfela yn ein herbyn, ac felly i gael eu llwyr ddifetha.”

14. Aeth Bagoas i mewn a churo ar borth allanol y babell, am iddo dybio fod Holoffernes yn cysgu gyda Judith.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 14