4. Ond dilynwch hwy, chwi a holl drigolion ffiniau Israel, a dinistriwch hwy wrth iddynt ffoi.
5. Ond cyn i chwi wneud hyn, galwch ataf Achior yr Ammoniad, er mwyn iddo gael gweld ac adnabod y gŵr a fychanodd dŷ Israel ac a'i hanfonodd ef atom ni, fel y tybiai, i'w farwolaeth.”
6. Galwasant Achior o dŷ Osias; a phan ddaeth, a gweld pen Holoffernes yn llaw un o wŷr y gynulleidfa, syrthiodd ar ei wyneb fel un heb anadl.
7. Wedi iddynt ei godi, syrthiodd wrth draed Judith ac ymgrymu ger ei bron a dweud, “Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, ac ym mhob cenedl! Daw ofn dirfawr ar bawb a glywant dy enw.