Hen Destament

Testament Newydd

Judith 14:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Wedyn aeth i'r babell lle'r oedd Judith wedi bod yn aros, ond ni ddaeth o hyd iddi. Llamodd allan at y bobl a gweiddi:

18. “Y mae'r caethweision wedi'n twyllo! Y mae un wraig o blith yr Hebreaid wedi dwyn gwaradwydd ar dŷ'r Brenin Nebuchadnesar. Dyma Holoffernes ar lawr, a'i ben wedi mynd!”

19. Pan glywsant hyn, rhwygodd arweinwyr byddin Asyria eu dillad, a daeth ofn dirfawr arnynt. Bu bloeddio a gweiddi croch trwy'r holl wersyll.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 14