Hen Destament

Testament Newydd

Judith 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ond yr oedd wedi hwyrhau, a brysiodd ei weision i ymadael. Caeodd Bagoas y babell o'r tu allan, gan gau allan y gwarchodwyr o ŵydd ei arglwydd, ac aeth y rheini ymaith i'w gwelyau; yr oedd pawb wedi blino'n lân gan i'r wledd barhau cyhyd.

2. Gadawyd Judith ar ei phen ei hun yn y babell, a Holoffernes wedi syrthio ar ei hyd ar ei wely; yr oedd yn frwysg gan win.

3. Dywedodd Judith wrth ei chaethferch am sefyll y tu allan i'w hystafell wely a disgwyl am ei hymadawiad, fel y byddai'n gwneud yn feunyddiol. Yr oedd wedi dweud wrthi y byddai'n mynd i'w man gweddi, ac wedi rhoi'r un neges i Bagoas.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 13